Mawrth 26, 2026 - Gan Jordan Eardley Jordan Eardley

Cynhaliodd Gogledd Creadigol ei wobrau blynyddol i ddathlu’r dalent, yr arloesedd, a’r cydweithio rhagorol sy’n llunio diwydiant digidol-creadigol ffyniannus gogledd Cymru. Mae’r gwobrau blynyddol, sydd bellach yn eu 5ed flwyddyn, yn parhau i dynnu sylw at gryfder cynyddol economi greadigol Gogledd Cymru a’r bobl sy’n ei gyrru ymlaen. 

Wedi’i gynnal yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar 25 Mawrth, daeth gwobrau Gogledd Creadigol unwaith eto â thalent o’r sector Creadigol-Digidol yn y rhanbarth ynghyd a’i ddathlu. Daeth gweithwyr llawrydd, busnesau a sefydliadau ynghyd i gydnabod rhagoriaeth mewn sectorau gan gynnwys ffilm, dylunio, gemau, digwyddiadau byw, a thechnoleg greadigol. 

Cyflwynwyd y gwobrau gan Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai ac aelod o Grŵp Llywio Gogledd Creadigol, a ddywedodd “Mae Gwobrau Gogledd Creadigol yn parhau i arddangos y creadigrwydd, yr arloesedd a’r cydweithio anhygoel sy’n digwydd ledled Gogledd Cymru. Mae enwebeion ac enillwyr eleni yn dangos cryfder ein cymuned greadigol ac effaith gynyddol y sector yn lleol ac yn genedlaethol” 

Roedd gwobrau eleni yn cydnabod ystod amrywiol o waith creadigol, o dalent sy’n dod i’r amlwg i arweinwyr sefydledig, a gwelsom dri chategori newydd yn cael eu cynnwys. 

Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion, a’r enillwyr oedd 

  • Tu ôl i’r Lens — Siôn Emlyn Davies, Sion Emlyn Wildlife 
  • Chwaraewr Gorau — Chaz Carter, MADEBYCHAZ/Rarebit Studios 
  • Gweledigaeth Ddigidol — Rob Spaull, Reality Boffins 
  • Torri’r Tir — Canolfan Bedwyr 
  • Llygad am ddylunio – Lisa Jones, LE Jones Art 
  • Y Darlun Mawr – Klaire Tanner, Creutech 
  • Seren y Sector – Carol Ann Jones, Academi Sgrin Cymru 
  • Ton y Podlediad – Ffion Medi, Dim Clem Pod 
  • Arloesi’r Llwyfan – Theatr Bara Caws 
  • Seren y Dyfodol – Begw Elain 

 

Meddai Begw Elain “Mae’n anrhydedd enfawr cael fy nghydnabod ochr yn ochr â chynifer o bobl greadigol dalentog o bob cwr o Ogledd Cymru. Mae’r gwobrau’n ddathliad gwych o egni creadigol a chymuned y rhanbarth.” 

Dywedodd Carol Jones “Braint arbennig ydi derbyn y wobr yma ar rhan yr Academi Sgrin. Dwi’n gwerthfawrogi’r cefnogaeth mae’r Academi’n ei gael gan y sector, gan bobl llawrydd sy’n cydweithio gyda ni, a ‘da ni’n wir deall pŵer y ‘rhwydwaith’ yn y rhanbarth! Noson wych.” 

Mae Gogledd Creadigol yn rhwydwaith sy’n cefnogi’r diwydiannau creadigol a digidol ledled Gogledd Cymru, gan ddod ag unigolion, busnesau a sefydliadau ynghyd i gydweithio, rhannu gwybodaeth a hyrwyddo talent rhanbarthol. Mae’r rhwydwaith yn cynnal digwyddiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ac mae bob amser yn croesawu aelodau newydd. Dysgwch fwy https://www.gogleddcreadigol.cymru/cy/