Ein Sectorau

Mae Gogledd Creadigol yn cynnig tocyn ‘backstage’ i’r byd creadigol a digidol yng Ngogledd Cymru – o ddigwyddiadau byw ffyniannus, labeli recordiau annibynnol a chwmnïau teledu a ffilm blaenllaw, i fyd gemau fideo, deallusrwydd artiffisial, AR a dylunio. Mae’r rhanbarth yn fyw efo talent, gyda darparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach rhagorol yn siapio’r genhedlaeth nesaf.

Drwy ymuno â rhwydwaith Creative North byddwch yn cysylltu ag arbenigwyr ym meysydd cerddoriaeth, cynhyrchu, peirianneg a digidol, a chael mynediad i hyfforddiant, rhwydweithio, hyrwyddo a chefnogaeth. Dyma’r lle i gydweithio, arddangos eich sgiliau a bod yn rhan o gymuned arloesol sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn gwthio ffiniau ar lwyfan cenedlaethol.

GC

Golwg Gyflym

7,200

swyddi yn sector creadigol gogledd Cymru

21%

o fusnesau creadigol Cymru sydd wedi’u lleoli yn y gogledd

23%

o gyflogaeth greadigol Cymru sydd wedi’i lleoli yn y gogledd

Beth rydym yn ei wneud

Ein cenhadaeth yw galluogi cydweithio a phartneriaethau o fewn y sector creadigol-ddigidol a chryfhau ein henw da fel rhanbarth.

Mae Gogledd Creadigol yn bodoli i uno’r sector creadigol-digidol yng ngogledd Cymru, darparu cyfeiriad tuag at ddyfodol mwy ffyniannus a chysylltiedig, a chynrychioli gyda dylanwad ac awdurdod yng Nghymru ac y tu hwnt.

Gyda’n gilydd, ein gweledigaeth yw cael ein hadnabod ledled y byd fel canolfan dalent a chyfleoedd yn y byd creadigol-digidol.

Dewch yn aelod o Creative North heddiw!

Os nad ydych wedi cofrestru fel Aelod, cliciwch 'Cofrestru' i weld sut gallwch chi fod yn rhan o'r rhwydwaith! Dewch i fod yn rhan o rywbeth sy'n ysbrydoli'r Gogledd ac yn llywio'r sector ymlaen!


Cofrestru