Ionawr 30, 2026 - Gan Jordan Eardley Jordan Eardley

Ydych chi erioed wedi meddwl am greu gêm neu ffilm newydd?

Beth os byddech chi’n cael eich herio i gael rhywbeth yn barod i’w ddangos i gynulleidfa mewn 24 awr, gyda gwobr o hyd at £5,000 i’w gipio? Dewch i Jamio! 

Gan ddechrau ar yr 20fed o Chwefror gyda chyflwyniad i be ‘di Jam, bydd cyfle i chi glywed a chael eich ysbrydoli gan bobl o ddiwydiant, i gael eich tîm yn ei le, a gofyn cwestiynau. 

Mae’r gwaith go iawn yn dechrau ar y 26ain o Chwefror, lle byddwn yn datgelu pwnc a rheolau’r digwyddiad YN FYW yn M-SParc ac ar ein gwefan am 9am. Yna bydd gennych tan 6pm ar y 27ain o Chwefror i greu eich gêm neu ffilm, yn barod i’w chyflwyno yn ein digwyddiad pitsio. Gallwch aros yn M-SParc am y cyfnod, dylunio a gweithio fel tîm, neu gallwch gyfarfod yn un o’n lleoliadau lloeren, gan gynnwys Stiwdio Vedri sydd ar gael ar y 27, neu ar-lein! Bydd angen i chi fod yn M-SParc erbyn 6pm ar y 27ain ar gyfer y gystadleuaeth fawr! 

Amserlen y Digwyddiad: 

Link Dydd Gwener, 20fed o Chwefror, Nyth Fran Wen (Linc)

9:00: Cyrraedd a Chofrestru
9:30: Agoriad a chyflwyniad, gyda chyfle i glywed gan y diwydiant a phobl sydd wedi cymryd rhan mewn Jamiau o’r blaen.
11:00: Ymunwch â thimau! Os nad oes gennych dîm pan gyrhaeddwch, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi. 

Cofrestrwch trwy lenwi’r ffurflen hon: Link Yma

Link Dydd Iau 26ain i ddydd Gwener 27ain o Chwefror (Linc)

9:00: Datgelir thema’r Jam.
9:05: = JAM! 

Darperir byrbrydau yn M-SParc. 6pm nos Wener 27ain byddwn yn cynnal ein digwyddiad dathlu! Mae’r digwyddiad hwn ar agor i’r cyhoedd, gall unrhyw un ddod draw i fwynhau’r profiad, cael bwyd, a gweld beth mae’r beirniaid yn ei benderfynu. Mae ein tîm yno i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.  

Gemau – Byddwch yn dod â’r gêm yn barod i’w chwarae; ar eich gliniadur neu ddyfais, bydd pobl yn gallu chwarae eich gêm i’w phrofi a’i sgorio.  

Ffilmiau – Bydd angen i chi ddod â’ch ffilm ar liniadur neu USB, bydd y rhain yn cael eu dangos i’r gynulleidfa gyfan yn ystod y digwyddiad.